Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd 2025 - beirniadaethau rhyddiaith

Y Fedal Ryddiaith - Doethineb

Ymgeisiodd chwech am y fedal eleni, ond bu’n rhaid diystyru cynnig Dylan cyn cychwyn am fod y stori fer ‘Rhychau amser’ ymhell dros y terfyn geiriau a osodwyd ar gyfer y gystadleuaeth.

Yn gyffredinol, doedd hon ddim yn gystadleuaeth neilltuol o gryf, ond roedd hi yn gystadleuaeth ddifyr, ac yn cynnwys mwy nac un llais bywiog, annisgwyl. Braf o beth oedd gweld hiwmor ac abswrdiaeth yn cael lle yng ngwaith mwyafrif yr ymgeiswyr; gall hynny fod yn brin mewn cystadleuaeth o’r fath lle mae pynciau dwys yn fwy tueddol o fynd â bryd sgwennwyr. Tydi 2,000 o eiriau ddim yn llawer, mewn difri – mae gofyn gwasgu hyd yn oed stori fer i derfynau o’r fath, ac felly mae angen syniad sy’n ddigon cyflawn o fewn hynny o eiriau i beidio gorfodi pethau i orffen ar ras, neu adael gormod heb ei ddweud. Mae goreuon y gystadleuaeth wedi gwasgaru ergydion eu gwaith yn hafal dros y lle sydd ar gael, tra bod ambell un arall wedi cael ei wasgu wrth weld y terfyn geiriau’n dod. Straeon byrion oedd dewis ddull pob cystadleuydd; mae’n werth nodi y byddwn wedi croesawu ysgrifwyr hefyd, gan nad yw geiriad y gystadleuaeth yn rhoi gofyniad am ffuglen o reidrwydd. Yn wir, mae’n bosib y byddai ysgrif dda wedi ffitio’n dwtiach o fewn 2,000 o eiriau na mwyafrif y straeon byrion. Waeth beth am hynny, cefais amser braf yng nghwmni’r pump y bûm yn eu hystyried; mae gan bob un ohonynt afael sicr ar y Gymraeg, dychymyg byw, a’r gallu i briodi’r ddeubeth hynny er mwyn ysgrifennu’n greadigol.

Yn eironig, dim digon a gafwyd gan yr awdur gyda’r ffugenw Rhy Gormod. Cyfres o sefyllfaoedd sy’n codi wrth wynebu’r dasg o drefnu angladd tad y llefarydd a gawn; o’r trafodaethau lletchwith gydag ymgymerwr di-ddallt i’r cwffio i gael cynnal y gwasanaeth yn Gymraeg. Mae’r ysgrifennu doniol, hunan-ddychanol yn wreiddiol iawn ar adegau:

Gallwn ei weld yn sefyll yn eu cegin oer a’r muriau wedi eu baricedio gan dorthau bara brith, fel sandbags yn amgueddfa Vimy Ridge.

Y broblem i mi gyda gwaith yr ymgeisydd hwn oedd nad oeddwn i’n siŵr a fwriadwyd i mi gymryd yr holl beth yn ysgafn ai peidio. Oherwydd y gwamalu, roedd manylion bach tyner a chrefftus am ymateb y llefarydd i farwolaeth ei thad yn mynd ar goll – y sôn amdano’n llithro’n ‘gofiant arall i’r pentwr cofiannau wrth ochr y gwely’, neu’r awydd i wasgu ‘botwm rewind ar beiriant casét amser’ a chael popeth yn ôl fel y bu. Nid annog diffyg cynildeb fyddai annog Rhy Gormod i ymestyn y darn hwn; yn enwedig yn achos y diweddglo, nad yw’n teimlo fel diweddglo mewn difri ond fel rhywbeth wedi’i adael ar ei hanner.

Yn stori fer annisgwyl, swreal a thywyll Coch y Bonddu, ‘Doethineb Solomon’, rydym yn cyfarfod rhai o weithwyr yr ‘Hen Ffatri’ wrth iddynt ymgynnull o flaen eu ‘Rheolwr’ (priflythyren) i dderbyn y dasg gwbl ddibwrpas o geisio llenwi rhidyllau â dŵr cyn eu taflu, wedi eu defnyddio unwaith, i’r bin sbwriel. Mae holl weithwyr ‘Y Cwmni’ (priflythyren eto!) yn derbyn y gwaith yn ddigwestiwn, ar wahân i Solomon, sy’n gwrthwynebu, ac yn gadael er mwyn mynd i bysgota, gan dderbyn ei fod yn peryglu’i gyflogaeth wrth wneud hynny. Mae’r stori wedi’i thorri yn bum rhan, gan arwyddo’r gofal a gymrodd yr Coch y Bonddu wrth saernïo eu stori. Yn hytrach na digwyddiadau mawr, canolbwyntiodd yr awdur ar ymwneud y pedwar cymeriad a enwir â’i gilydd; ac er y teimlir fod pob cymeriad yn cynrychioli ‘math’ penodol o bersonoliaeth a swyddogaeth o fewn y stori, llwyddodd i wneud hynny at ei gilydd heb estyn am ystrydebau hawdd. Mae arddull bron yn rhodresgar yr ysgrifennu yn gweddu’r abswrdiaeth i’r dim:

Rhaid egluro fod Neifion yn credu fod y swyddogaeth flaengar a gymrodd arno’i hun, i fod yn siaradwr ar ran ei gydweithwyr, yn syniad penigamp. Oherwydd mae Neifs â’i fryd ar ddringo’r rhengoedd o fewn y Cwmni. Felly, wedi’r pesychiad strategol, dyry broc geiriol i’r Rheolwr trwy ddweud fod pawb yn bresennol, a gofynna tybed a oes modd cael gwybod beth yw tasgau’r dydd.

Dyma stori y des i yn f’ôl ati, a’i phrocio i ganfod mwy yn cuddio dan y wyneb; mae’r diweddglo yn annisgwyl ac yn rhoi digon inni dynnu ein casgliadau ein hunain ynghylch union natur yr hyn sydd wedi digwydd. Cam gwag oedd cynnwys y llinell olaf, ond peth hawdd iawn ei ddatrys yw hynny!

Stori arswyd a gafwyd gan Gair i gall, lle mae Aled ac Enid trwy chwilfrydedd yn cyrraedd tŷ hanesyddol Hendre Dywyll, ac yn cyfarfod y deiliaid presennol, Daren a Susan. Mae’n cychwyn yn gryf, heb roi gormod o gliwiau i ni sut hanes fydd hwn (yn wir, dechreuais ddarllen gan ddisgwyl stori fer am yr argyfwng ail gartrefi). Yn raddol sylwir nad yw popeth fel y dylai fod gyda’r tŷ a’r pâr sy’n byw ynddo. Er bod y datgelu araf hwn yn grefftus ar y cyfan, roedd rhai o’r awgrymiadau yn llai na chynnil a gellid bod wedi gwella arnynt; er enghraifft, nid yw’r frawddeg lle mae un o’r prif gymeriadau yn sylwi ar y gyfrol Organ Transplantation in the Modern Era ar silff yn y tŷ – a hynny lai na hanner ffordd drwy’r stori – yn gadael llawer o amheuaeth ynghylch natur y diweddglo arswydus. Mae gan Gair i gall ddawn i greu byd a chyd-destun ehangach sy’n dal y stori yn ei lle, gan gynnwys y cyfeiriadau at waith Daren yng ngogledd Iwerddon cyn iddo ymddeol, ac at hanes Hendre Dywyll:

[...] ma’r tŷ hyn wedi newid shwt gymaint dros y blynydde. Flynydde maith yn ôl, un o ddisgynyddion Iestyn ap Gwrgant oedd yn byw yma. Fe, os cofiwch chi, wna’th adael i’r Normaniaid oresgyn Bro Morgannwg.

Mae’r diweddglo, fel mwy nac un yn y gystadleuaeth, yn digwydd ychydig yn rhy sydyn. Fe ddefnyddiodd yr ymgeisydd hwn bob un o’r 2,000 o eiriau oedd ar gael, ac fy nheimlad felly yw mai deunydd darn hwy sydd yma o bosib, a phe byddai’r awdur wedi cael ychydig yn fwy o le i ymestyn eu camau, y byddent yn medru cyrraedd tir uwch yn yr ornest hon.

Glen, wedyn, a roddodd inni stori Robin, sy’n dychwelyd i strydoedd dinas ei febyd wedi pymtheg mlynedd i ffwrdd, ac yn penderfynu gweithredu yn erbyn y datblygwyr a weddnewidiodd yr ardal a arferai fod mor gyfarwydd iddo. Hwyrach fod y cyferbynnu rhwng y Prif Drefnydd maleisus a Robin braidd yn or-syml; ac yn wir, mae’n deg dweud na lwyddodd y cysyniad yma ar ei hyd fy argyhoeddi yn llwyr. Roedd gen i ormod o gwestiynau’n parhau am yr hyn a fyddai wedi digwydd yn y blynyddoedd rhwng plentyndod Robin a dychwelyd yn ddwy ar hygain oed i achosi iddo droi at hunanfomio fel protest yn erbyn gweithredoedd y datblygwyr. Mae’r awdur yn rhoi bys ar bwnc cyfoes perthnasol iawn, ac mae hynny i’w ganmol, ond gall yr ysgrifennu – yn enwedig lle mae’n manylu ar agweddau’r datblygydd – droi’n stroclyd neu bregethwrol ar brydiau:

Yn wir, gwaetha’r modd, roedd ambell adeilad hanesyddol, ambell gapel ac eglwys hyd yn oed, wedi gorfod cael eu cau. Trueni mawr oedd hynny ond, neno’r tad, roedd ystadegau’r colledion yn well na’r hyn a gafwyd yn hanes nifer o ddinasoedd y byd. Ac o roi popeth yn y glorian, roedd y ddinas hon a’i chynllunwyr yn haeddu pob canmoliaeth a chlod.

Unben yw awdur mentrusaf y gystadleuaeth o ran ffurf. Mae stori fer yr awdur hwn wedi’i llunio trwy gyfuno nifer o gyfryngau gwahanol – e-byst, monolog, toriadau newyddion, cofnodion cyfarfod a chyfweliad. Cefais fy nenu at y gwaith yn syth oherwydd hyn. Yng nghwmni Unben, rydym yn dilyn helyntion y cynghorydd diegwyddor a llwgr T. Aman Phillips M.B.E. sydd, wedi iddo golli pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth, yn derbyn e-bost o ben arall y byd allai gynnwys yr allwedd i adfer ei statws mewn gwleidyddiaeth leol. Rhoddodd Unben inni rai o olygfeydd doniolaf y gystadleuaeth, wrth i’r gwleidydd di-siâp dyllu twll iddo’i hun; dyma enghraifft o’r rhan sydd wedi’i hysgrifennu fel ‘Cofnodion Cyfarfod Adolygu’:

Pwyntiodd T. Aman at ddrws a dweud fod dwsinau o bobl yn awyddus i gael swydd Dan Blank. Tynnodd Dan Blank sylw T. Aman at y ffaith ei fod yn pwyntio at gwpwrdd lle cedwid ffeiliau’r adran.

Aiff cynnig Unben ychydig yn ddryslyd tua diwedd helyntion T. Aman, ac hwyrach y byddai gwerth dychwelyd at adran ‘Cofio am flynydde’ i ailystyried ac ailweithio rhai pethau i sicrhau fod y ddeialog a’r digwyddiadau – yn enwedig cymeriad ‘brawd y bardd’ – yn taro deuddeg. Serch hyn, dyma’r ymgeisydd a wnaeth i mi wenu fwyaf; ac hwyrach bod fy nghyfnod o weithio fel cyfieithydd i awdurdodau lleol yn cynorthwyo fy mwynhad yn hynny o beth.

Gellid gwella a thynhau eto ar waith yr holl ymgeiswyr, ond mwynheais eu cwmni i gyd. Cafwyd y pethau gorau yng ngwaith Unben a Coch y Bonddu. Teimlwn mai Coch y Bonddu oedd yr awdur a lwyddodd i roi’r gorffeniad gorau ar y syniad oedd ganddynt, gan gael y cyfanwaith yn grwn o fewn terfynau’r gystadleuaeth, a chadw ansawdd yr ysgrifennu yn gyson dda trwy gydol y darn. Am hynny, a gwreiddioldeb ac anesmwythyd eu stori fer, gwaith Coch y Bonddu sydd ar y brig ac yn teilyngu’r fedal. Unben sy’n ail ac mae Gair i gall yn drydydd.

Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc - Llanw

tafolwyd ar y cyd â Robat Powell, y beirniad barddoniaeth

Gwaith dau yn unig ddaeth i law, sy’n nifer anghyffredin o isel mewn cystadleuaeth fel hon.

Braf oedd cael cwmni Morgrugyn Pitw Bychan, y cefais ddarllen eu gwaith yn yr adran agored hefyd. Mae cerdd gynta’r Morgrugyn yn disgrifio mynd a dod cyson llanw’r môr, sydd ‘yn llyncu’r holl ofnau a’r gobeithion’. Trwy hynny portreadir y llanw fel ryw lyfnwr mawr, nad yw’n dda nac yn ddrwg; ond sy’n rym i’w barchu, ac weithiau’n ddinistriol. ‘Bywyd yw llanw’ meddai yn y pennill olaf; nid yw’n syniad newydd o bell ffordd, ond mae anwyldeb yn y modd y cafodd ei gyfleu yma.

Mae ail gerdd yr ymgeisydd hwn yn fyr iawn; tair llinell yn unig. Er nad oes yma gynghanedd, mentraf mai ymgais ar greu englyn milwr yw’r darn hwn, gyda llinellau 7/8 sill a phrifodl. Yr un llanw sydd yma eto, sef llanw’r môr sy’n ‘llifo fel clocwaith’. Mae elfen o fyfyrdod yr haiku yn y pennill byr hwn, ac er byrred, credaf ei fod yn ymgais fwy llwyddiannus na’r gerdd hirach ddaeth o’i flaen. Gall Morgrugyn Pitw Bychan lunio llinellau a phenillion swynol, a gobeithio y bydd yn parhau i fwynhau chwarae â sŵn geiriau.

Dwy stori fer amaethyddol sydd gan Caradog, a’r ddwy yn straeon dwys – y naill, ‘Y Ddafad’, yn bortread o ddadfeiliad cof un o’i phrif gymeriadau, a’r llall, ‘Y Ceiliog’, yn ymdrin â pherthynas dreisgar.

Mae’r awdur hwn yn ysgrifennu’n fyrlymus a chan fwyaf, yn go gredadwy; mae’r cymeriadau yn fyw iawn a mân-droadau a chymhlethdodau eu perthnasau wedi’u cyfleu yn dda. Ceir deialogi cofiadwy a chyffyrddiadau o hiwmor a’r abswrd weithiau – sy’n gallu bod yn dda o beth pan fo’r pwnc cyffredinol yn un trymaidd. Mae cymeriadau fel ‘Meryl Meddwl bod Hi’ a ‘Devena Dweud Dim’ sy’n codi yma ac acw yn rhoi ysgafnder ond eto’n gredadwy ac yn tystio i graffter wrth lunio cast ymylol i brif ddigwyddiadau’r straeon.

Does dim dwywaith y gallai Caradog ffrwyno’r dweud; byddai llai o gymariaethau yn gwneud y rhai a gynhwysid yn fwy effeithiol. Mae hefyd yn gwneud camau gwag fyddai’n hawdd eu hunioni gyda phwyll ac ymchwil; er enghraifft, nid yw’r manylion am y gwn ym mharagraffau agoriadol ‘Y Ddafad’ yn taro deuddeg i mi fel un a fagwyd ar fferm. A dyma enghraifft o’r disgrifio pan fydd yn fwy anghynnil:

Roedd yr holl gwt yn gwbl gloëdig gyda phileri pren yn fyddin, yr holl ffordd o’i amgylch. Gwifrau metel wedi’u clymu’n dynn o un piler i’r nesaf. Syllai bachau craff y weiren bigog yn fygythiol arnoch.

Byddai llai o bentyrru wedi cynyddu’r effaith – un ergyd iasoer sydd ei hangen, weithiau.

Fel fy nghyd-feirniad, rydw innau’n cwestiynu i ba raddau y llwyddodd yr un o’r ymgeiswyr gyflwyno’r ‘ddau ddarn cyferbyniol’ y gofynnwyd amdanynt yng ngeiriad y gystadleuaeth; ac mae testunoldeb gwaith Caradog yn amheus, er yr ymgais i achub hynny trwy gynnwys cyfeiriad at ‘lanw’ tua diwedd y ddwy stori. Fodd bynnag, rydw i hefyd yn gweld addewid sicr a gwreiddioldeb yn y gwaith ac am hynny mae Caradog yn haeddu’r Tlws.

Llên meicro – Pe bawn i ...

Does dim diffiniad twt, hyd y gwn i, am yr hyn a ddisgwylir o lên meicro, ac mae’r terfynau geiriau mewn cystadlaethau fel hon yn amrywio. Roeddwn i’n chwilio am stori fer iawn – darn oedd yn dal i lwyddo i gynnwys rhyw newid annisgwyl o fewn ychydig eiriau, fyddai’n fy ngadael yn teimlo’n wahanol am y cymeriad(au) a’u byd. Mae her ychwanegol yng ngofyniad y gystadleuaeth hon i gynhyrchu darn unigol o lên meicro sy’n sefyll ar ei draed ei hun, gan ein bod yn amlach na pheidio yn darllen llenyddiaeth o’r fath o fewn casgliadau o ddarnau sy’n perthyn i’w gilydd.

Mae Morgrugyn Pitw Bychan yn rhestru’r pethau na fyddai yn eu prynu pe byddai’n filiwnydd – cwch hwylio, plasdy, dillad drud – gan ddatgelu yn eu brawddeg olaf mai gwario’r arian ar lond tŷ a wnaent pe meddent ar y fath gyfoeth. Mae’n anodd ystyried yr ymgeisydd hwn o ddifri mewn cystadleuaeth agored.

Dilyna ymgais Ioseff drywydd tebyg i ddechrau, o ran eu bod yn agor gyda rhestr blentynaidd mewn ymateb i’r sbardun ‘Pe bawn i’n brif weinidog’. Mae llais y plentyn yn rhestru pethau fel sicrhau cartref i bawb, a rhoi terfyn ar ryfela a newyn, ymhlith y deisyfiadau hynny. Ond daw tro yn y darn, a sylweddolwn mai ailddarllen geiriau a roddwyd ar bapur flynyddoedd maith yn ôl yn niniweidrwydd plentyndod y mae’r sawl sy’n llais i’r darn. Wrth lanhau’r tŷ, mae mam Anna yn dod ar draws y papur ac yn gwirioni ar ei darganfyddiad; ond mae’r llefarydd ei hun yn tristhau, gan wybod na ‘[f]yddai Anna fach ddim yn hoffi’r gwir heddiw’. Hoffais ddatblygiad llên meicro Ioseff, ac arddull gyferbyniol y rhannau sydd yn llais y plentyn a’r oedolyn. Hwyrach y gallai’r llinell glo fod fwy amwys, trwy ddangos yn hytrach na dweud sut mae teimladau Anna wedi newid.

Cawn sgwennwr coeth yn Uned Gofal Dwys – rhy goeth ar brydiau, hwyrach. Teimlwn mai’r cynildeb a’r tyndra oedd ar goll yn y darn hwn, a roddir yng ngenau unigolyn sy’n glaf yn yr ysbyty – yn anymatebol a disymud. Cyfres o fyfyrdodau sydd yma, am yr hyn y byddai’r unigolyn hwn yn ei wneud pe byddent yn gallu siarad, symud, canu a cherdded. Dyma enghraifft o’r ieithwedd:

Pe bawn i’n gallu canu, fe heriwn i unrhyw eos ar frigyn neu unrhyw ddatgeinydd ar lwyfan i ymuno â mi mewn deuawd wefreiddiol. Pe bawn i’n gallu cerdded, byddwn yn erchi i’m traed fy nghyfeirio tuag at gyfnod dilyffethair, yn ôl i gôl cwmnïaeth a rhialtwch fy hen gyfeillion.

Mae’r llefarydd wedyn yn cyfarch y sawl sy’n dod at ymyl y gwely i eistedd am iddynt eirioli ar eu rhan, a mynd i wneud y pethau y bydden nhw’n dymuno eu gwneud pe gallent – ‘oherwydd chi bellach yw fy llais, fy nhraed a’m dwylo’. Mae’r ysgrifennu yn gadarn, ond fe’m gadawyd yn oer braidd gan y goreiriogrwydd, er y thema ddirdynnol.

Cydbwyso dau osodiad yw’r hyn a wna Glenys ac Erasmus ac oherwydd tebygrwydd y fformat a’r fformiwla sydd gan y ddau ar gyfer ysgrifennu llên meicro, tybiaf mai’r un ymgeisydd sy’n cuddio y tu ôl i’r ddau ffugenw. Dyma’r darnau byrraf yn y gystadleuaeth – dau frawddeg yr un; y frawddeg gyntaf yn ymholiad, a’r ail yn ymateb athronyddol i’r ymholiad hwnnw.

Y llwyfan ar gyfer llên meicro Glenys, a ddyfynnir yn llawn isod, yw ystafell arholiad mewn prifysgol, wrth i oruchwyliwr a myfyriwr gyfnewid ychydig eiriau.

Cyn dosbarthu’r papurau arholiad gradd mae’r goruchwyliwr yn mynd i ddesg yn y rhes gefn a gofyn: ‘Pwy y’ch chi?’

                        Cwyd y myfyriwr ei ben. ‘ ’Sen i’n gwbod yn well, fydden i ddim ’ma.’

Apeliodd y darn hwn ataf o’r cychwyn; cododd wên ac ystyriaeth o-ddifri yr un pryd, ac mae’n hawdd uniaethu â dryswch hunaniaeth cyfnod prifysgol. Yr awgrym yw ei bod yn bosib na fyddai’r myfyriwr hwn wedi mynd i’r brifysgol pe bai’n adnabod ei hun yn well, neu y byddai’n astudio pwnc gwahanol, efallai. Ond hefyd, trwy osod yr olygfa fach hon o fewn sefyllfa arholiad, ac felly ar ddiwedd cyfnod, rydym yn deall nad yw’r myfyriwr unrhyw faint yn nes at ddarganfod pwy ydyw nag ydoedd ar ei ddechrau. Yma, mae’r ‘meicro’ yn rhoi arwydd inni o ddarlun ehangach, ac mae hynny i’w ganmol.

Mae darn Erasmus dipyn yn fwy ystrydebol i’m golwg i, ac os ydw i’n gywir i feddwl mai’r un awdur ydyw, mae hynny yn ei hun amlygu’r ffin denau y bydd awdur llên meicro yn ei droedio wrth geisio athronyddu o fewn cyn lleied o eiriau. Tra y cafodd Glenys hwyl dda ar hyn, mae’r sylwi sydyn ar y watsh ddrud fel arwydd o gyfoeth cadeirydd y panel yn stori Erasmus yn teimlo fel hen drawiad braidd, ac o’r herwydd nid yw’n ddarn mor effeithiol na chofiadwy. Serch hynny, mae’n ddarn o sgwennu ddiwastraff, sy’n ein gollwng i ganol stori gan roi lle i ninnau ddychmygu’r cyd-destun.

Gosodaf Glenys ar frig y gystadleuaeth; mae Ioseff yn ail ac Erasmus yn drydydd.

Adolygiad

Dewisodd yr unig ymgeisydd, Morgrugyn Pitw Bychan, adolygu’r sioe Hamilton gan Lin-Manuel Miranda. Mae’n adolygiad cryno fyddai’n gweddu i golofn bapur newydd neu bostiad ar y cyfryngau cymdeithasol, yn hytrach na bod yn ddarn beirniadol mwy treiddgar. Rhoddodd inni syniad o gryfderau’r sioe, gan gynnwys y cast amrywiol (a’r ffaith mai actorion o liw sy’n chwarae rhannau’r ‘Founding Fathers’), y coreograffi a’r llwyfannu. O ran cydbwysedd, mae hefyd yn nodi ei bod yn heriol dilyn trywydd y perfformiad ar adegau oherwydd y cyflymder, a bod yn rhaid bod yn astud iawn er mwyn peidio methu dim. Mae’r ysgrifennu, er nad yw’n ddifrychau, yn eglur ac yn syml. Er y byddwn wedi hoffi gweld mwy o dreiddgarwch yn y darn, mae Morgrugyn Pitw Bychan yn haeddu derbyn y wobr.

Rhyddiaith y Dysgwyr - Y Ddinas

Braf oedd derbyn cynigion Chloe ac Amelia yn y gystadleuaeth hon; y ddwy wedi dewis ysgrifennu am eu hymweliadau â dinasoedd Ewropeaidd.

Cawn ddisgrifiad gan Amelia o ymweliad â Barcelona ar gyfer ei phen-blwydd yn un ar bymtheg. Mae’i disgrifiadau yn fyw ac yn llawn ansoddeiriau ac amrywiaeth.

Cyflwyniad i ddinas St. Johan yn Awstria a gawn gan Chloe, wrth iddi deithio’r holl ffordd o Gaerdydd ar y bws – ‘diolch byth dyma ni’n stopio o dro i dro am saib’ – sy’n antur ynddo’i hun!

Does dim llawer rhwng Chloe ac Amelia; maent fel ei gilydd wedi cael gafael dda ar yr iaith, ac yn ysgrifennu’n amrywiol a difyr ynddi. Mae’r sillafu a’r ramadeg yn gywir iawn at ei gilydd ganddynt hefyd. Teimlais fod darn Amelia ychydig yn fwy uchelgeisiol o ran y brawddegu ac felly mae’n cael y wobr gyntaf, ond mae’r ddau ymgeisydd i’w llongyfarch yn fawr.

Rhyddiaith Bl. 1-2 - Cerdyn post

Diolch yn fawr i Robin Goch am y cerdyn post o wyliau sgïo ym mynyddoedd yr Alpau, lle mae’n disgrifio’r nerfusrwydd ar y dechrau cyn y mwynhad o wibio i lawr y llethrau. Ar ben y bwyd hyfryd, y chwarae yn yr eira a’r gemau bwrdd, uchafbwynt y gwyliau i Robin Goch yw dathlu ei phen-blwydd yn wyth oed yn yr eira. Dyma atgofion hyfryd wedi eu gosod a’u mynegi’n fywiog ac annwyl. Llongyfarchiadau i Robin Goch, sy’n cael y wobr gyntaf.

Rhyddiaith Bl. 7-9 - Fy hobi

Cystadlodd saith, ac mae rhywbeth i’w ganmol yng ngwaith pob un. Y goreuon oedd y rhai y teimlwn eu bod wedi mynd y tu hwnt, efallai, i dasg a osodwyd yn y dosbarth, a rhoi dogn hael o’u personoliaeth, eu hiwmor a’u bydolwg eu hunain yn yr ysgrifennu.

Ymateb i’r athrawes yn gosod y dasg o baratoi cyflwyniad am ‘hoff weithgaredd hamdden’ y mae Biliwnydd, a chyda hynny down i ddysgu am Ted Jones, a’i obsesiwn gyda chwarae gwyddbwyll. Mae’n poeni’n arw y bydd y plant eraill yn chwerthin am ei ben o ddod i wybod am ei hobi am mai gêm i ‘nerds’ yw gwyddbwyll. Cawn bortread o blentyn sensitif ac unig – ond angerddol – yn y darn hwn, ac mae’r diweddglo’n drawiadol wrth iddo fyfyrio ar y dasg o’i flaen fel petai’r dasg honno’n gêm ar y sgwariau du a gwyn; mae’n ‘gwybod gwyddbwyll a dim byd arall. Dwi wedi cyrraedd stale mate’.

Ar ffurf cofnod dyddiadurol y daeth ymgais Aderyn Glas – dyddiadur diwrnod cyntaf gwyliau’r haf. Disgrifiad o fynychu’r parc dŵr ym mae Caerdydd sydd yma, ac mae cyffro’r llefarydd yn heintus. Efallai nad portread o ‘hobi’ sydd yma mewn difri, ond mwynheais frwdfrydedd yr awdur, a’r disgrifiadau byw a chlir.

Chwarae pêl-rwyd yw hobi Anna yn stori Afal Coch, a chawn ddisgrifiad o ddiwrnod y gêm fawr rhwng ysgolion Glantaf a Phlasmawr. Plasmawr sy’n ennill y ddarbi, a threfnir parti annisgwyl i’r tîm buddugol gyda ‘canu, dawnsio a bwyta lot o losin’. Dyma sgwennwr byrlymus arall sy’n dod â chyffro’r digwyddiad yn fyw iawn.

Sophie, merch ym mlwyddyn saith sydd wrth ei bodd yn chwarae pêl-droed yw Cŵl Dŵd. Mae’n disgrifio ei phrofiad fel ‘yr unig ferch ar y cae’ yn yr ysgol gynradd, a’i hymdrechion i annog y Pennaeth, Mr. Roberts, i ddechrau tîm merched. Mae’r sylwebaeth yn hynod o graff gan awdur mor ifanc:

Ro’n i’n hoffi Mr. Roberts. Roedd e’n frwdfrydig am bopeth, ac wir yn siomedig am ddiffyg awydd merched ein hysgol am bêl-droed. Gwnaeth e ddechrau clwb pêl-droed merched, ond dim ond fi wnaeth fynychu.

Fel yn ymgais Biliwnydd, ceir portread cofiadwy o’r plentyn sydd â diddordebau ychydig yn wahanol i rai ei ffrindiau; ac ymatebion amrywiol y bobl o’u cwmpas i hynny – y ffrindiau lled-gefnogol; y brawd mawr sy’n ei chyflwyno i dîm Lerpwl, a’r chwaer fach sy’n ei phryfocio ond sy’n barod i gysuro pan mae’i ffrindiau yn troi yn ei herbyn am fod yn ‘gymaint o tomboy’. Y bechgyn yn yr ysgol wedyn – rhai wrth eu boddau ac eraill yn teimlo dan fygythiad oherwydd dawn Sophie. Roeddwn i’n falch fod y diweddglo yn un cadarnhaol, ac alla i ond gobeithio fod yr awdur yn siarad o brofiad. Dyma ddarn y gwnes i ei wir fwynhau; nid yn unig am fod yr ysgrifennu’n llifo, ond am fod gan yr awdur rhywbeth pwysig i’w ddweud.

I fyd chwaraeon yr awn ni yng nghwmni #dramatig123 hefyd, y tro hwn i’r cwrt tenis yn hytrach na’r cae pêl-droed. Mae gan #dramatig123 hiwmor iach, fel sy’n amlwg o resymeg y frawddeg hon, wrth i’r llefarydd 6 oed chwarae tenis yn erbyn eu tad:

... enillais gêm ar ôl gêm yn erbyn dad felly ffoniodd dad ei ffrind gorau sy’n bencampwr tennis yn Wimbledon i weld os oeddwn yn anhygoel o dda am fy oedran neu os mai dad oedd yn wael!

Mae #dramatig123 yn curo’r ffrind, ac ymhen amser mae’n cystadlu yn Wimbledon ei hun, gyda llygad ar un o wobrau mwyaf anrhydeddus y byd tenis. Dyma ddychymyg a disgrifiadau byw iawn.

Dawnsiwr ballet yw fflamingoporffor, a hoffais gynllun y darn hwn yn fawr. Caiff y llefarydd glyweliad ar gyfer y sioe ‘Swan Lake’, ac mae’r sawl sy’n cynnal y clyweliad – ‘menyw hyfryd gyda [g]wallt melyn llachar’ – yn gofyn y cwestiwn ‘pam wyt ti’n dawnsio?’. Yr hyn a gawn wedyn yw monolog fewnol y dawnsiwr gyda’r holl atebion i hynny, ond deallwn nad yw’n llwyddo i ymateb i’r cwestiwn ar lafar. ‘Gobeithio yn y dyfodol byddaf yn cofio hyn [...] dweud yn union be sy ar fy meddwl dim ots os nad yw’n gwneud synnwyr i unrhywun arall’, meddai. Dyma ddarn sydd yn gwir ddangos cariad fflamingoporffor tuag at ballet, tra hefyd yn dangos sut y gall mynegi’r angerdd hwnnw fod yn beth anodd iawn i’r llefarydd. Mewn byd mwy deallus ac empathetig, hwyrach y byddai wedi cael y cyfle i fynegi hynny trwy ddawns yn hytrach na thrwy ateb cwestiwn mewn cyfweliad.

Cofnod dyddiadurol a gawn gan Gorffennaf_11, sy’n disgrifio’r diwrnod cyntaf o fynychu gwersi gweu crochet. Dyma ddarn byw arall, gyda chyffro’r llefarydd yn amlwg drwyddo draw. Hoffais y diweddglo yn fawr, lle mae’r llefarydd, wrth fynd i’r gwely ar ddiwedd diwrnod prysur, yn breuddwydio am greu blanced gyda’u crefft newydd.

Am graffter, dawn disgrifio a pherthnasedd cyfoes, Cŵl Dŵd sy’n cael y wobr gyntaf; mae hanes annisgwyl Biliwnydd yn ail, a fflamingoporffor a #dramatig123 yn gydradd drydydd.

Next
Next

Datganiad i’r Wasg: Bardd y Dre, Caernarfon