Datganiad i’r Wasg: Bardd y Dre, Caernarfon

Mae Cyngor Tref Caernarfon yn falch iawn o gyhoeddi ei bod wedi penodi Iestyn Tyne fel bardd swyddogol gyntaf y dref am weddill cyfnod y Cyngor presennol.

Mae Iestyn wedi byw a gweithio yng Nghaernarfon a’r cyffiniau ers dros chwe blynedd erbyn hyn, ac wedi bod yn rhan o fywyd diwylliannol a llenyddol y dref drwy gydol y cyfnod hwnnw. Buodd yn byw yn Nhwtil yn y dref tan yn ddiweddar gyda’i wraig, Sophie, a’u merch fach Nansi. Erbyn hyn, er symud tafliad carreg o’r dref i ardal Waunfawr mae’n parhau i weithio o stiwdio ar lawr uchaf Adeilad yr Institiwt – pencadlys y Cyngor Tref, ac yn dwyn llawer o’i ysbrydoliaeth o fod wrth ei waith yng nghalon y dref hanesyddol a’i phobl.

Yn wreiddiol o Ben Llŷn, symudodd i Gaernarfon yn syth o’r brifysgol. Fel bardd, mae wedi cyhoeddi hyd yma dair cyfrol lawn o farddoniaeth a dau bamffled. Y diweddaraf o’r rhain yw Dysgu Nofio, casgliad o gerddi wedi’u lleoli yn nhref Caernarfon a ddaeth yn agos at y brig yng nghystadleuaeth y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2023; cerddi sy’n ymateb i’r profiad o ddod yn dad ifanc yng nghyd-destun bygythiadau newid hinsawdd. Mae wedi perfformio ei waith creadigol ar sawl cyfandir, gan gynnwys ymweliadau â gwyliau llenyddol yn India a Türkiye eleni. Fel arall, mae ei waith wedi’i gyhoeddi’n eang o fewn Cymru mewn cyfnodolion a blodeugerddi, ac wedi’i gyfieithu a’i gyhoeddi mewn nifer o ieithoedd eraill. Cafodd ei benodi’n Fardd Preswyl yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 2019 a 2023. Cyhoeddir ei gyfrol ffeithiol-greadigol gyntaf, Y Cyfan a Fu Rhyngom Ni, gan Wasg y Bwthyn yn 2025.

Mae hefyd yn cyd-arwain gweithdai ysgrifennu creadigol ym Maesgeirchen, Bangor, gyda grŵp ‘Ar y Dibyn’ sydd wedi’i deilwra yn arbennig ar gyfer pobl sy’n adfer o ddibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau. Mae hefyd yn angerddol dros annog a rhannu gwaith lleisiau newydd ym myd barddoniaeth Gymraeg, gyda’i waith gwirfoddol fel sylfaenydd a golygydd i Gyhoeddiadau’r Stamp a chyfnodolyn barddoniaeth Ffosfforws.

Mae’n edrych ymlaen at ymgymryd â rôl newydd sbon Bardd y Dre, ac yn gobeithio cyfansoddi cerddi fydd yn cael eu cyflwyno mewn dulliau sy’n mynd y tu hwnt i’r ddalen brint – fel rhan o gelf gyhoeddus, mewn perfformiadau, ac mewn cydweithrediad â mudiadau a grwpiau lleol.

Er mwyn cysylltu ynghylch y gwaith hwn, e-bostiwch bardd@cyngortrefcaernarfon.llyw.cymru

Previous
Previous

Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd 2025 - beirniadaethau rhyddiaith

Next
Next

Eisteddfod Gadeiriol Penbre a Phorth Tywyn 2024 - beirniadaethau llên