Eisteddfod Gadeiriol Penbre a Phorth Tywyn 2024 - beirniadaethau llên

Cystadleuaeth y Gadair – Ton/Tonnau

Dwy gerdd yn unig a dderbyniwyd, er bod y testun yn un agored a deniadol.

Galar ar ôl colli cariad neu gymar – mae’r cyfeiriad at ffrog briodas yn awgrymu pâr priod neu bâr a fyddai wedi priodi pe na bai un wedi marw – sydd gan Eithin. Un frawddeg hir yw’r gerdd hon o’i dechrau hyd ei diwedd, ac mae hynny’n gweddu i’r ddelwedd ganolog sef rhyferthwy’r storm yn codi ac yn corddi fel ymgorfforiad o’r galar a deimlir.

Mae sawl ymadrodd chwithig a chamgymeriad yn y darn sy’n awgrymu y gallai gafael Eithin ar gystrawen a gramadeg fod yn gryfach (mae ‘Trai y tara’ fel ail linell, er enghraifft, yn anffodus – credaf mai’r hyn y mae’r bardd yn ceisio ei fynegi yw fod ‘llanw fy llawenydd’ y llinell agoriadol wedi ei daro bellach gan drai). Fodd bynnag, cafwyd hefyd ysgrifennu trawiadol ac angerddol, fel yn y llinellau hyn:

i fi, pan mae’r tonnau’n taflu’u hunain

yn ddiofal ar y creigiau,

yn gadael creithiau ar yr arfordir,

nid dyrnau haearnaidd

na dannedd brathog a welaf;

nid rhu y gwynt sy’n udo –

nid dyna a glywaf,

ond awel o haf

a thithau’n fy hudo;

Mae’r sŵn a’r sigl yn awgrymu fod yma fydryddwr wrth reddf, ac mae’r cyferbyniad odledig rhwng ‘udo’ a ‘hudo’ yn enghraifft o sut mae llinellau’r bardd hwn yn siarad â’i gilydd. Fy ngobaith yw mai llais sydd megis dechrau barddoni yn y Gymraeg sydd yma, un a fydd yn cryfhau wrth fynd rhagddo.

Y ‘tonnau’ yng ngherdd fyrrach Yr Yndyrgrownd yw’r llanw a thrai o bobl sy’n symud yn gyson trwy dwnelau rheilffyrdd tanddaearol Llundain.

Dan draed dynion,

Yn ystafell ddofn y ddaear,

Mae pobol yn twnelu eu tiwn

Mae gan Yr Yndyrgrownd well meistrolaeth ar yr iaith a geirfa ehangach nac Eithin. Mae geiriau mwy tafodieithol – ‘diddwedwst’, ‘cwthwme’, – yn rhoi tinc o anwyldeb i’w llais. Gall greu llinellau cofiadwy, fel hwn sy’n adleisio sŵn y trên yn agosáu ar y cledrau: ‘daw dwndwr o drydan yn drowynt ar drac’. Ond er bod yr ail bennill sy’n cyfarch defnydd y twnelau i gysgodi rhag bomiau yn ystod y Rhyfeloedd Byd yn mynd i gyfeiriad digon dilys o ran y pwnc dan sylw, nid yw’r pennill hwn fel petai wedi ei phwytho’n ddestlus i ganol y gerdd. Yn hytrach, mae’n sefyll allan ac yn gwneud i rywun amau’r penderfyniad i’w gynnwys o gwbl. Teimlir y gellid naill ai bod wedi byrhau’r gerdd hon yn delyneg un ddelwedd, neu ei hymestyn gan roi mwy o ofod i gyfosod yr awyrgylch fygythiol a wêl y bardd yn y presennol a’r ‘chwa o gysur’ a gafwyd wrth geisio lloches ‘rhag rhaib y Reich’. Credaf fod fflachiadau yma sy’n awgrymu fod Yr Yndyrgrownd yn fardd gwell na’r gerdd hon.

A oes teilyngdod, felly? Mae’n rhaid cyfaddef i mi bendilio rhwng gwobrwyo ac atal yn yr achos hwn. Gan na chefais wefr fawr o’r un o’r ddwy gerdd yn eu cyfanrwydd, a chan imi dynnu sylw at nifer o wendidau yng ngwaith yr ymgeiswyr, penderfynais y byddwn yn bwrw’r fantol o blaid y bardd a roddodd imi’r ymadroddion unigol mwyaf cofiadwy, gyda siars i ddal ati i fireinio gramadeg, geirfa a chrefft trwy ddarllen yn eang, parhau i ysgrifennu a pharhau i gystadlu.

Yn ogystal â chydnabod rhagoriaeth, mae angen dathlu addewid weithiau, a dyna a wneir yma. Cadeirier Eithin.

Tlws Llenyddiaeth yr Ifanc – testun agored

Yn anffodus, bu’n rhaid diystyru ymgais Mot am fod eu stori fer yn hirach na’r uchafswm geiriau a ganiateir yn y gystadleuaeth hon. Bûm yn ystyried gwaith pum ymgeisydd ar gyfer y tlws, felly.

Stori fer iawn a gafwyd gan Machno. Yn ‘Y Gerddinen Goch’ rydym yn cyfarfod Eilir, hen wraig sy’n byw ar ei phen ei hun mewn man anghysbell; fe’i dilynwn wrth iddi fynd o gwmpas ei phethau rhwng bwthyn a gardd berlysiau, cawn ein cyflwyno i bresenoldeb ‘annaturiol o dlws’ coeden gerddinen goch sy’n dal ystyr arbennig ac anesmwyth i’r prif gymeriad. Aiff ei sylw yn ôl at y goeden hon drwy gydol y darn ac fe ddeallwn erbyn y traean olaf bod cysylltiad rhyngddi a thrawma dychrynllyd yn ieuenctid Eilir.

Er fod gan Machno ddawn amlwg i sgwennu’n dlws (‘Crogai tegell dros flodyn o dân’ a ‘Llafn gyntaf golau dydd yn torri fel siswrn drwy garthen y nos’) mae hynny’n troi yn rhy aml yn sgwennu gorymdrechgar; er enghraifft, fe deimlir fod disgwyl i’r darllenydd weld arwyddocad mawr mewn delweddau fel ‘cwpan gyda chrac ar ei [g]wefus a soser gyda hollt ar ei hwyneb’. Rydym yn deall mai ceisio cyfleu henaint a musgrelldra yw’r nod yma, ond byddai bod yn fwy detholus gyda’r pethau hyn yn cynyddu eu heffaith, mewn difri.

Ar yr un pryd, er y duedd i fod yn or-eiriog o fewn disgrifiadau unigol, mae hon yn stori sydd angen ei hymestyn; mae’r diwedd yn rhuthro oddi wrthym braidd a phopeth yn cael ei egluro yn rhy gyflym. Mae gan Machno syniad da, ond byddwn i’n awgrymu, waeth beth fo gwerth hynny, fod angen gwneud dau beth – cynilo’r dweud ac ehangu’r cynfas.

Hanes un cymeriad benywaidd a gawn gan Cannwyll, hefyd. Yn y stori fer ‘Dychwelyd’, mae Meri, sy’n ddwy ar hugain oed, yn fam ac yn disgwyl eto, yn myfyrio ar ei bywyd ers iddi ddisgyn yn feichiog yn bedair ar ddeg oed a rhoi’i babi cyntaf i ofal ei mham i’w fagu fel ei ‘brawd’. Cawn hanes Fo – ei chariad, Carwyn, a fu farw ar faes y gad yn yr Ail Ryfel Byd, mae’n debyg – ac yna’i charwriaeth gydag Iwan, ei hachubwr wedi iddi geisio terfynu ei bywyd yn ei galar. Dyna fras-syniad sy’n rhoi argraff ar yr hyn y ceisir ei wasgu i le cyfyng gyda’r stori hon.

Mae’r dweud yn dda iawn ar brydiau - ‘crys ei dad yn llac ar ei ysgwyddau main; baich dyn arnynt hefyd’. Teimlwn, fodd bynnag, i’r awdur golli cyfle i gyfleu naws ac arferion cyfnod yn well os am osod eu stori mewn cyfnod hanesyddol. Mae’r disgrifiadau a geir yn teimlo yn debycach i syniad rhywun am y gorffennol, yn hytrach na ffrwyth ymchwil manwl. Roedd y cyferbynnu rhwng y cymar ‘gonest, gweithgar’ a’r cymar sydd ‘mas yn yfed [...] tra bod hithau’n gorfod cyfri’r ceiniogau yng ngolau cannwyll wrth aelwyd oer’ yn dod yn or-rhwydd ac yn troi sefyllfa gymhleth yn un ‘ddu a gwyn’ yn rhy aml.

Penderfynodd Meillion a Dyffryn Glo farddoni yn hytrach na rhyddieitha.

Daw cerdd Dyffryn Glo, ‘Glo’, o safbwynt plentyn sy’n eistedd yn eiddgar i wrando ar ‘myng-gu’ yn ‘cloddio’r stori unwaith ’to’ – stori gyfarwydd hanes y gweithwyr glo. Mae’r modd y mae’r bardd yn fframio’r hanes hwnnw yn stori’r fam-gu yn llwyddiannus, ond mae craidd y gerdd – er yr angerdd dirdynnol – yn llai crefftus. Symudwn o genhedlaeth i genhedlaeth rhwng ‘Boncyffion budr’ bysedd datcu, y glöwr, ‘canghennau o fysedd main’ y tad a anfonwyd oddi cartref yn saith oed, ac yna’r llefarydd ei hun sy’n ‘ddall i’r holl ddioddef’. Mwynheais y diweddglo, lle’r ydym yn dychwelyd i’r ystafell at y fam-gu a’r plentyn:

Y cyfoeth

Y glo

A’r sibrwd

“Gaf i’r stori ’to?”

‘Tra bo dau’ yw teitl Meillion, ar ôl y gân draddodiadol adnabyddus. Cerdd serch yw hon ar yr olwg gyntaf; yn wir, mae’r bardd yn defnyddio dros hanner y gerdd i arllwys eu teimladau serchus tuag at y gwrthrych:

Tra bo dwy lygad

Yn ffenestri agored,

Didwyll,

Yn loyw o fyw,

Byddaf bob tro yn mynd

Ar goll

Yn yr archollion dwfn hynny;

Pendronais dipyn dros natur y cariad hwn, gan mai’r teimlad a geir yw ei fod yn fynegiant uncyfeiriad – does dim arwydd fod y sawl sy’n derbyn y geiriau hyn yn gweld pethau'r un fath. Wrth i’r gwaith ddatblygu tua’i ddiwedd, aiff pethau’n dywyllach; mae’r gwrthrych yn symud oddiwrth y llefarydd erbyn hyn:

Tra bo dau droed,

Yn cerdded un llwybr

Oddi wrthyf fi,

Ti fydd y tirnod

I fi ddilyn;

Fe’m hanesmwythwyd gan y llinellau clo, yr wyf fi’n eu darllen fel mynegiant brawychus o’r modd y gall obsesiwn gydio, ac mai camau yn unig sydd i rai rhwng rhamant ‘diniwed’ unochrog y llinellau agoriadol ac ymddygiad bygythiol ac ideoleg yr incel.

Mae ôl awdur ifanc sydd eisoes wedi canfod sicrwydd llais ar ‘Yr Oen Swci’ gan Nena. Daw Siân a Dafydd am ginio Sul gyda rhieni Siân ar eu fferm yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin neu Geredigion ac mae’r stori fer yn digwydd yn ei chrynswth wrth i’r teulu baratoi a bwyta’r pryd. Dawn mwyaf Nena yw consurio deialog gredadwy sy’n llifo’n rhwydd ond heb wastraff chwaith – mae bron pob gair o enau’r cymeriadau hyn yn dweud rhywbeth wrthom amdanynt.

Cyflwynir tensiwn o’r dechrau un trwy awgrymu nad yw Siân a Dafydd yn dweud y gwir am y rheswm eu bod wedi cyrraedd yn hwyr (‘Stopon ni am ddisel ar y ffor...’); down i ddeall yn grefftus o raddol am anhwylder iechyd Siân, ac mae ôl-fflachiau i’w phlentyndod ar y fferm hefyd yn cyfrannu at sefyllfa sy’n gwawrio arnom yn araf heb i ddim gael ei or-esbonio. Mae’r diweddglo yn drawiadol ac yn ein gadael ar ymyl darganfyddiad newydd fydd yn newid bywydau pob un o’r prif gymeriadau; dyma’r man lle mae stori fer newydd yn cychwyn yn ein dychymyg, ac fe wnaeth yr awdur yn dda i derfynu gyda hynny yn hytrach na rhoi mwy inni.

Nid yw Nena heb ambell lithriad yma ac acw; maent yn awdur gwell nac ambell linell o’u heiddo – y rhai mwyaf chwithig o bosib yw’r enghreifftiau lle mae bron fel pe baent yn hanner troi at y darllenydd i’w gyfarch gyda jôc: ‘Roedd e’n casáu mynd i’r Eglwys. Bob tro y byddai’n gorfod mynd, byddai’n well ganddo guddio yn y fynwent!’ Ond hollti blew yw peth felly, a dyna fyddai gwaith golygydd pe byddai’r awdur yn mynd ati i gyhoeddi’r stori fer hon (ac fe fyddai’n dda eu gweld yn gwneud hynny).

Wrth ddyfarnu, roddaf sylw arbennig i Meillion am gerdd annisgwyl oedd yn mynnu crafu yn fy mhen ar ôl ei darllen. Ond mae stori fer Nena gryn dipyn eto ar y blaen ac iddyn nhw yr aiff y tlws, gyda llongyfarchion gwresog.

Englyn – Goleudy

Cafwyd tri ymgais ar y testun ‘Goleudy’. Mae’r tri bardd yn deall hanfodion gwneud englyn ac mae’r cynganeddu at ei gilydd yn ddifrychau.

O’r Ward ddaeth at y testun yn fwyaf trosiadol, heb gyfarch goleudy llythrennol ond yn hytrach olau yn fflachio’n gyson ar beiriant cynnal bywyd mewn ysbyty.

Eto fflach gyson o’r smotyn. – Gwyliwn

Y golau wrth erchwyn

A dal ei dwylo yn dynn.

Agos o hyd yw’r clogwyn.

Mae’n englyn crwn, ac o wneud yn siŵr ei fod yn dychwelyd at ddelwedd sydd yn yr un byd â’r goleudy – sef y clogwyn – mae’r bardd yn cyfiawnhau dewis y pwnc a wnaeth ar gyfer y testun a osodwyd. Synhwyrwn ein bod ar ddiwedd oes anwyliad yma, ond fod y person mewn cyflwr sefydlog ac felly bod yna ryw gymaint o amser ar gael i’w dreulio yn ‘dal ei dwylo yn dynn’. Mae ‘erchwyn’ yn air da, oherwydd mae’r meddwl yn mynd yn syth at erchwyn gwely – sef yr hyn sydd yma, wrth gwrs – ond sylwer nad yw’r bardd yn dweud ein bod wrth erchwyn gwely; rydym wrth erchwyn, ar ymyl rhywbeth; rhywbeth mawr a gwyllt ac ansicr, fel y môr. Yna datganiad moel y llinell glo, sydd wedi’i hatalnodi ar wahân – ‘Agos o hyd yw’r clogwyn’. Ardderchog o amwys yw ‘o hyd’ yma – ydi, mae’r llestr hon mewn perygl o hyd (still) ac fe’i harbedwyd rhag mynd yn erbyn y creigiau am y tro ond mae bygythiadau iddi eto; neu mae hwn yn ffaith fwy cyffredinol – dyma ein profiad ni, profiad sy’n dangos mor agos ydym at y clogwyn o hyd (always). Mae’r cynganeddu’n ysgafn ond mae hynny’n gweddu i dynerwch yr hyn a gyfleir.

Mae englyn Rhydwen yn cyfarch goleudy penodol a chyfarwydd i fynychwyr yr eisteddfod hon, sef Goleudy Whitford, a welir o Borth Tywyn. Bu’r goleudy hwn yn weithredol rhwng 1865 a 1920 a dyma’r unig oleudy haearn ym Mhrydain sydd wedi’i amgylchynu gan y môr.

 niwl yn ei hanwylo, yn y don

mae dynes yn rhodio;

ysbryd cudd yn sibrwd co’

hen aber a aeth heibio.

Hoffais wreiddioldeb yr englyn hwn. Mae’r ddelwedd o’r ddynes yn rhodio’n dalsyth ar y gorwel, rhwng tonnau a niwl, yn gafael - yn gyrru mymryn o ias, hyd yn oed. Nid wyf mor sicr o’r cwpled clo; os ‘ysbryd cudd’ yw’r goleudy, sut hefyd ei bod wedi’i disgrifio mor weledol gofiadwy yn y ddwy linell agoriadol? Mae’r syniad wedyn o’r ‘hen aber a aeth heibio’ yn dda; hynny yw, y ddynes hon yw cof yr holl fynd a dod a fu yn y darn hwn o fôr ac mae’n dal yno, yn arwydd o gyfnod arall. Ond nid yw gwahanol elfennau'r dweud yma yn cloi yn ei gilydd rhywsut; ac ni allaf ddianc rhag y ffaith nad wedi ‘mynd heibio’ y mae’r aber ei hun - mae’n dal i fod yno.

Mae englyn Jac yn ymgais fwy hen-ffasiwn i ddisgrifio’r hyn ydyw goleudy:

I forwyr bob cyfeiriad dyry winc

yn eu tro’n ddieithiad;

fry o bell fe yrr eu bad

ar ei hynt ar amrantiad.

Mae ymdrech yma i gyfannu cylch yr englyn, mi dybiaf, yn yr adlais rhwng ‘amrantiad’ y llinell glo a ‘winc’ y llinell agoriadol. Fel arall, mae’r dweud braidd yn chwithig; mae ‘o’ ar goll yn y llinell gyntaf oherwydd prinder sillafau, ac i mi mae’r cynganeddu rhwng y cyrch a’r ail linell yn drwsgl (i’r glust os nad yn dechnegol). Mae ‘fry o bell’, er nad yw’n gwrth-ddweud ei hun yn llwyr, eto braidd yn chwithig. Mae’r llinell olaf yn un da, ac fe ddylai’r bardd ei chadw i’w rhoi mewn englyn sy’n ei dal yn well.

Mae’r gystadleuaeth rhwng O’r Ward a Rhydwen. O’r Ward sy’n mynd â hi, gyda Rhydwen yn ail a Jac yn drydydd.

Soned neu delyneg – Y Parc Gwledig

Un soned ddaeth i law, a honno’n eiddo i Dan Dŵr.

Cafodd y gystadleuaeth hon eleni feirniad a fyddai wedi croesawu mwy o ystumio ac arbrofi ar ffurf y soned na’r mwyafrif, mae’n siŵr. Yn anffodus, er nad yw ymgais Dan Dŵr yn cydymffurfio â gofynion sonedau mwy rheolaidd, ni chredaf mai penderfyniad bwriadol oedd hynny. Yr elfen sydd ar goll o’u soned Shakespeareaidd yw’r mydr iambig – fel arall, maent wedi llwyddo i gynnal y patrwm odlau arferol a chadw at linellau degsill. Wrth mai sonedau o’r math hwn yw mwyafrif llethol y sonedau yn y traddodiad Cymraeg, byddwn yn argymell i’r bardd fynd ati i ddod o hyd i enghreifftiau a’u darllen yn uchel er mwyn clywed y mydr pendant iawn sy’n perthyn i’r math hwn o gerdd. 

Mae cynnwys y soned yn syml dros ben ac yn disgrifio taith i lawr yr M4 ‘fel raswyr ar drac Penbre’ i ymweld â’r parc gwledig. Cefnir ar ‘goncrit a llwydni’r dre’ i fwynhau gogoniannau’r parc, ac fe restrir llawer o’r gweithgareddau posib. Mae’r cwpled clo yn ddigon dymunol ac yn darllen fel hysbyseb i ymwelwyr â’r ardal: 

Yn y Parc Gwledig, mae Natur ei hun

Yn falm lliniarol i enaid pob dyn.

Mae’n werth cadw mewn cof fod y soned yn aml yn cynnwys tro neu newid cywair yn rhywle tua’r canol; cerdd sy’n teithio i un cyfeiriad yn unig yw hon, ac efallai y byddai defnyddio mesur gwahanol, fel y pennill telyn, wedi bod yn fwy addas. O ddysgu mwy am y mesur a’i ymarfer, rydw i’n siŵr fod gan Dan Dŵr ddigon o allu i gyfansoddi soned reolaidd gywir, ond ni wobrwyir y tro hwn.

4 triban neu haiku i 4 aelod o’r teulu

Er derbyn pedair ymgais yn y gystadleuaeth hon, bu’n rhaid diystyru’r ddau gynnig a yrrodd Dan Dŵr. Cyflwynodd y bardd hwn bum pennill yn ei gyfres gyntaf a chwech yn yr ail ac felly aeth y tu hwnt i ofynion y gystadleuaeth ar ddau gyfrif – nifer y penillion ac nifer yr aelodau o’r teulu. Ymddiheuriadau i Dan Dŵr, gan ei bod yn bur amlwg o’u hymdrechion eu bod yn ei medru hi’n iawn ar fesur y triban.

Mae Tlws yr Eira yn deall gofynion y triban hefyd, a chyflwynodd dribannau i ‘Efaill’, ‘Mam’, ‘Mam yng nghyfraith’ a ‘Taid’. Triban agoriadol y bardd hwn i’r ‘Efaill’ yw’r cryfaf:

Dau grëwyd o’r un brethyn,

Gychwynwyd o’r un gwreiddyn,

Gweld ti dy hun mewn arall ddyn

Yn gwisgo’r un dilledyn.

Mae’r odl fewnol ychwanegol yn y drydedd linell yn ychwanegu at garlamiad y pennill, ac mae’r syniad yn fwy annisgwyl na gweddill y tribannau, sy’n tueddu i ystrydebu mwy. O ran hynny, siom braidd oedd i’r bardd ymostwng ei hun i jôc dreuliedig y fam yng nghyfraith erchyll erbyn y trydydd pennill (I’w mab yng nghyfraith niwsans yw / Pan ef a’i clyw yn crawcian). Gall Tlws yr Eira ddefnyddio’u dawn at ddibenion mwy gwreiddiol. 

Mae Garth yn enwi gwrthrychau eu tribannau, sydd ar unwaith yn ein tynnu’n nes at y llefarydd a’i safbwynt – gwyddwn o’r dechrau nad penillion cyffredinol i ‘gyfneither’ neu ‘dad-cu’ generig yw’r rhain, ond teyrngedau i ‘Tad-cu, David Williams’, ‘Cyfnither, Mair’, ac yn y blaen. Atgofion bychain a chroyw a gyfleir yma at ei gilydd – edrych ar lun o ‘Dat Tŷ Croes’ yn ymweld â thraeth ar Sul y Tadau neu fynd i ‘grwydro’r bryniau’ gyda’r gyfneither, Mair, a Mot y ci. Nid yw triban olaf Garth, ‘i’r mab, Gwern’, gystal â gweddill y casgliad ond dyma waith annwyl a chaboledig.

Cafodd Garth well hwyl arni y tro hwn, ac mae’n cael y wobr gyntaf, gyda Tlws yr Eira yn ail.

Cerddi gan ddysgwyr hyd at 20 llinell – Hydref

Braf oedd cael cwmni tri yn y gystadleuaeth hon. 

Yng ngherdd rydd Bilidowcar, mae Gweneth yn hydref ei bywyd ac yn eistedd wrth fwrdd swper y cynhaeaf, a’r hyn a gawn yw ei dryswch wrth gamgymryd aelodau’i theulu ei hun am eraill. Tybir ei bod felly’n cael ei heffeithio gan gyflwr ar ei chof.

Edrychodd y ffermwr, ei gŵr. Na – ei mab.

Sut oedd ei bachgen cythryblus wedi dod yn ddyn ardderchog o’r fath?

Fe welir o’r dyfyniad mai lled-ryddieithol yw llinellau Bilidowcar mewn gwirionedd, ac mae’r gwaith yn troedio’r ffin rhwng cerdd a darn o lên meicro, er nad yw hynny’n fy mhoeni o gwbl. Mae sglein ar yr iaith a’r disgrifiadau, ac emosiynau cymhleth yr olygfa fechan hon wedi’u cyfleu yn dda.

Aeth Disgyn y Dail ati i gyfansoddi cerddi mydr ac odl, a chredaf mai dewis da oedd hynny. Roedd mesur y penillion yn rhoi sgaffald iddynt fynegi eu syniadau a chawsant hwyl dda arni. Gwnaeth yr ymgeisydd hwn imi wenu trwy fynd ati i farddoni’r newidiadau a fu yn y calendr ers oes y Rhufeiniaid sydd wedi symud mis Hydref o fod gerllaw’r haf i fod yn drothwy gaeaf:

Agosach at yr Haf yr oedd

nid cyfnod y cynhaeaf,

i ninnau heddi mae ’na naws

ac argoel glir o’r gaeaf.

Gwelir o’r llinellau a ddyfynnwyd uchod ruglder esmwyth y bardd wrth fydryddu’r Gymraeg, sy’n beth gwych i’w weld yn y gystadleuaeth hon yn arbennig. Hwyrach nad oedd angen i Disgyn y Dail gynnwys y ddau bennill olaf - crwydrodd oddi wrth y syniad gwreiddiol agoriadol, a chafwyd disgrifiadau mwy cyffredinol o’r tymor; ond, mae’r rheiny yn ddisgrifiadau da hefyd:

Mis y negeseuon,

llythyrau o bob lliw

y dail yn cwympo ar y llawr

arwydd o’r gaeaf yw. 

Hyfryd oedd dychmygu’r dail lliwgar fel negeseuon neu lythyrau’n ein cyrraedd.

Cyflwynodd y trydydd ymgeisydd, nad oedd wedi cynnwys ffugenw, gerdd dair pennill. Yng nghanol eu cerdd y mae’r ysgrifennu gorau wrth i’r bardd fynd ati i ddisgrifio bywyd a lliwiau’r tymor: ‘Cnau i’r cnocell y coed ac i wiwerod sionc, / Ar y ddaear, madarch a dail llaith pob lliw’. Mae’r pennill cyntaf a’r olaf yn gosod tymor yr Hydref yn ei lle mewn perthynas â’r tymhorau eraill, ac yn llai disgrifiadol. Gall lawer uniaethu, mae’n siwr, â’r llinellau clo:

Tuag at y diwrnod du byrraf,

Hiraethon ni am ddyddiau hir yr Haf.

Llongyfarchiadau i’r tri ymgeisiodd; mae ôl gofal a chrefft ar eu gwaith i gyd. Fel hyn y mae hi rhyngddynt: Disgyn y Dail yn gyntaf, Bilidowcar yn ail, a’r bardd di-ffugenw yn drydydd.

 

Stori fer hyd at 1,500 o eiriau – Atgof / Atgofion

Er bod 1,500 o eiriau braidd yn fyr ar gyfer ffurf hon, dyma oedd gofyniad y gystadleuaeth ac mae straeon byrion Olwen, Catrin Jên ac Alfie yn hwy na hynny. Mae’r gystadleuaeth hon felly rhwng Frisbee, Ellie a Blodyn Tatws.

Fel yng nghystadleuaeth yr englyn roedd hi’n braf cael blas lleol ar waith un o’r ymgeiswyr a dewisodd Ellie ysgrifennu ei stori fer ar ffurf ymson Wil Manny (?-1748), troseddwr adnabyddus o blwyf Penbre. Mae’n agor yn drawiadol wrth i Wil Manny, sydd o flaen ei well yn y llys, ymbil am drugaredd:

Sa i’n haeddu marw! Sa i’n haeddu crogi! Os gwelwch yn dda, peidiwch â’m gadael ar y groesffordd mewn gibbet i fwydo’r ader o Drimsaron. Dim fi sy wedi gwneud y pethau ofnadwy hyn, oedd y lleisiau yn fy mhen yn ei ddweud [sic] wrtha i.

Mae Ellie yn llwyddo’n dda iawn i ysgrifennu o safbwynt cymeriad cymhleth a chydnabod sut gall anffawd amgylchiadau effeithio’n bellgyrhaeddol iawn ar seicoleg unigolyn. Mae’n llwyddo i’n tynnu i’r tir llwyd rhwng cydymdeimlo a chondemnio, a’n herio i ystyried sut fyddai hi o bosib ar Wil Manny pe byddai’n cael ei erlyn yn ein hoes ni. Mae’r disgrifiadau o’r adar a’r llygod mawr yn ei watwar yn ei gell yn arbennig o gofiadwy, wrth i’r carcharor nesáu at ddydd ei grogi yng Nghaerfyrddin. Nid yw’r frawddeg olaf yn argyhoeddi fel y gallai, ond cafwyd yma stori ddifyr gydag ôl ymchwil ac ymdrech ddewr i bortreadu’r cyflwr meddyliol a allai fod wedi achosi rhai o weithredoedd treisgar Wil Manny.

Down yn ein holau’n glewt i’r presennol yng nghwmni Blodyn Tatws wrth inni ymuno â Mali a Darcy, dau ganol oed sydd wedi bod yn cael perthynas oddi allan i briodas Darcy ers chwarter canrif. Defnyddia Blodyn Tatws gynfas cyfyng i adrodd stori oesol perthynas anghytbwys sy’n golygu pethau gwahanol i’r ddau gymeriad. Gan i’r awdur gyfeirio’n benodol ar ddechrau’r stori at y ffaith fod Mali yn profi’r menopôs, roeddwn i’n disgwyl efallai y byddai hynny’n ymddangos eto yn y darn, ac yn berthnasol i’r stori, ond ni chafwyd hynny. Mae’n stori syml ond wedi’i hysgrifennu’n ddigon gafaelgar; ac roedd teimlo ar y diwedd nad oedd fawr ddim wedi digwydd neu newid yn ychwanegu os rhywbeth at sefyllfa’r cymeriadau; hynny yw, troi mewn cylchoedd o wahanu a dychwelyd at ei gilydd y maent, a thyb Mali yw na fydd y tro hwn yn wahanol na’r holl droeon blaenorol y bu iddynt fod yn y sefyllfa hon.

O wely claf mewn ysbyty y daw stori fer Frisbee. Caiff y cymeriad dienw eu cludo i ysbyty yn dilyn damwain ar draeth, ac wrth orwedd i adfer maent yn cychwyn sylwi ar eu cyd-gleifion ar y ward. O dipyn i beth down yn ymwybodol fod rhai pobl ar y ward yn marw’n sydyn dan amgylchiadau dirgel, ac mae’r llefarydd yn amau fod un o’r nyrsys yn gyfrifol am y marwolaethau hynny. Dechreuant ofni am eu bywyd eu hun, ond cânt eu rhyddhau o’r ysbyty heb i ddim ddigwydd.

Er bod syniad difyr ac eithaf brawychus yma, yn anffodus, rhy gryno inni gydymdeimlo’n llwyr â’r cymeriad a chredu’r stori yw darn Frisbee. Mae’r darn hefyd yn cloi gyda’r frawddeg ‘Gwirionedd neu atgof oedd y cyfan?’. Mae hwn yn ddull sâl iawn o ddod â stori fer i fwcl; boed fwriadol neu beidio, yr hyn a ddywedir trwy’i ddefnyddio yw bod y gwaith wedi colli stêm, neu’r awdur wedi colli amynedd neu ysbrydoliaeth.

Er bod gwaith Blodyn Tatws yn lanach o ran yr iaith ac yn stori fer ddigon cymen, fe’m hoeliwyd gan uchelgais a gwreiddioldeb ymdriniaeth Ellie â hanes Wil Manny, a’u gallu i fynd dan groen cymeriad hanesyddol mewn modd cytbwys a gofalus. Yn y gwaith hwn y cafwyd rhywbeth newydd, ac mae’n briodol iawn mai yn eisteddfod leol ardal enedigol y prif gymeriad y mae stori fer Ellie yn dod i’r brig, gyda Blodyn Tatws yn ail a Frisbee yn drydydd.

Previous
Previous

Datganiad i’r Wasg: Bardd y Dre, Caernarfon